Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu polisi Cymraeg
Clir/Plain English ar gyfer ei holl gyfathrebiadau, a hefyd rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
ddatblygu polisi o’r fath fel bod yr iaith a ddefnyddir yn
glir ac yn ddealladwy bob amser.
Mae siarad dwbl, iaith gyfreithiol ddiangen a defnyddio acronymau a
jargon annealladwy, ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar yn Siambr y
Senedd, yn atal gwleidyddiaeth yng Nghymru rhag bod mor gynhwysol a
hygyrch ag y dylai fod. Byddai polisi iaith glir yn helpu i annog
mwy o ddiddordeb a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth Cymru ymysg
pawb. Dylai’r polisi hefyd fod yn gymwys i ddogfennau
cyfreithiol/Biliau/Deddfau cyhyd â’u bod yn parhau i
fod yn gyfreithiol gadarn. Fel enghraifft dda o gyfathrebiad
dealladwy a chlir, gellid defnyddio templed Cymraeg Clir Canolfan
Bedwyr fel templed Cymraeg cyfatebol i dempled Plain English, fel
bod y defnydd o’r Gymraeg, p’un a gaiff ei defnyddio
mewn adroddiadau gwreiddiol neu ddeunydd wedi’i gyfieithu, yn
berthnasol, modern a dealladwy, ac nid yn gyfieithiad llythrennol,
annealladwy a slafaidd o’r geiriadur o’r fersiwn
Saesneg. Mae dyletswydd ar y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i
sicrhau bod pob penderfyniad llywodraethu sy’n effeithio ar
Gymru yn ddealladwy i bawb, pa bynnag iaith a
ddefnyddir.
.
Prif
ddeisebydd:
Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 11